Braf ymweld eto â’r Ysgol Astudiaethau Celtaidd yn DIAS, Dulyn - mae’n werth edrych allan am eu hysgoloriaethau ôl-ddoethuriaethol.
Dyma alwad am bapurau ar gyfer cynhadledd y Tionól, 27/28 Tachwedd eleni. Dyddiad cau 3/07. Mae wastad croeso mawr i bapurau am y Gymraeg.
www.dias.ie/2026/04/30/t...
Bydd Dafydd Johnston yn trafod ‘Gruffudd ap Nicolas: noddwr, beirniad a bardd’ yn Fforwm Beirdd yr Uchelwyr ar 13 Mehefin yn Neuadd Ddinesig Llandeilo. Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru e-bostiwch [email protected]. Croeso cynnes i bawb!
Gair y dydd: DEL geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html...
Mae’n rhyfedd fel mae geiriau’n gallu newid eu hystyr yn llwyr dros amser.
Hen ystyr DEL oedd ‘blin, garw, styfnig’. Ond ei ystyr i ni heddiw yw ‘hardd, tlws’.
Mae Studia Celtica 2025 wedi cyrraedd - rhifyn swmpus, wedi ei gyd-gynhyrchu gan y Ganolfan a @gwasgprifcymru.bsky.social @collen105.bsky.social. Cewch fanylion pellach yma: www.gwasgprifysgolcymru.org/journal/stud...
Gair y dydd: CLODDIO geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html...
Berf o'r enw CLAWDD, sef y pridd a bentyrrid wrth agor ffos, ac a weithredai'n aml fel ffin, fel CLAWDD Offa. Heddiw gall olygu gwrych yn gyffredinol.
Bu cwningen brysur iawn yn cloddio twll dros nos y tu allan i swyddfeydd GPC
Gair y Dydd: gwyntell geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., neu wyntell/gwintell/wintell. Basged gron heb ddolen iddi, wedi ei phlethu o wiail cyll neu helyg, ac a ddefnyddir yn arbennig i ddal tatws, dillad, &c. Caiff basgedi o'r fath eu hadnabod hefyd fel basgedi lip, cintell, cyntell a chantell.
Studia Celtica 2025 has arrived! - a substantial issue, produced jointly by the Ganolfan and @uniwalespress.bsky.social @collen105.bsky.social. Further information is given here: www.uwp.co.uk/journal/stud...
🎆Job Klaxon!!🎆
Folúntais: Scoláireachtaí Uí Dhonnabháin @scs-dias.bsky.social @dias.ie. Spriocdháta 5 Eanáir 2026
2 O’Donovan Scholarship vacancies at the School of Celtic Studies, Dublin Institute for Advanced Studies. Deadline 5 January 2026:
www.dias.ie/2025/12/05/v...