@bsky.app Gair y dydd: berfa geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., sy'n fenthyciad o'r Saesneg Canol 'barwe'. Whilber byddaf i'n ei ddweud, eto'n fenthyciad o'r Saesneg (wheelbarrow). Cymerwch olwg ar y cyfuniadau niferus sydd yn yr erthygl - a oes un ononynt yn gyfarwydd i chi? A wyddoch am eraill?
Y Geiriadur
Gair y dydd: erllyriad www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Bydd rhai ohonoch yn cofio plygu’r coesyn yn ddolen am fôn y blodyn er mwyn ei saethu. Fel yr awgryma’i darddiad [ar-, er- ‘cyfagos’+ llwrw ‘llwybr, ffordd’+-iad] fe’i ceir yn tyfu’n gyffredin ar fin y ffordd.
Gair y Dydd: crychydd glas geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Dyma un o’r enwau deheuol am y crëyr (glas). Beth fyddwch chi’n ddweud?
Gair y dydd: croesi www.welsh-dictionary.ac.uk/gpc/gpc.html... 'Mynd neu symud dros'. Mae'r gwartheg yn y llun yn croesi pont dros ffordd brysur ar eu ffordd i'w godro.
Gair y dydd: cegrwth ‘agored ei safn, cegagored’ www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... [ceg+rhwth ‘agored’] fel y cywion gwennol yma’n disgwyl am fwyd. Fe’i defnyddir yn aml i ddisgrifio rhywun â’i geg yn agored mewn syndod.
Gair y Dydd gwingo www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Bod yn aflonydd neu’n anesmwyth, troi a throsi, ymgilio e.e. rhag poen ayb.
commons.wikimedia.org/wiki/File:Ou...
Gair y dydd: BANGOR geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Gair cyfarwydd fel enw ar ddinas Bangor, ond a wyddoch ei ystyr? Sef ffens neu wal blethiedig, wedi ei hadeiladu gan ffyn a pholion wedi eu cydblethu â brigau neu ganghennau, a cheir ystyron eraill iddo fel amddiffynfa a mynachlog.
Gair y Dydd: lelog geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... a'r ffurfiau leloc, leiloc a leilac. Benthyciad yw'r gair o ffurfiau tafodieithol ‘lilac’ yn y Saesneg, sef 'laylock, laylac'. Y mae i glystyrau blodau bach persawrus y lelog liw porffor gwelw - y lliw a gaiff hefyd ei alw'n 'lelog'.
Video
Gair y Dydd: gwyddgrug geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Mae’n digwydd mewn enwau lleoedd fel Yr Wyddgrug lle bu terfysg a saethu ar y dyddiad hwn yn 1869 oherwydd anghydfod am amodau gwaith ym mhwll glo Coed-llai gerllaw.
Y Geiriadur
Y Geiriadur
Y Geiriadur
Y Geiriadur
Y Geiriadur
Y Geiriadur
Y Geiriadur
Y Geiriadur
Gair y Dydd diferu www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Defnynnu, dafnio, glawio’n fân.
CC BY-SA 4.0 Daniel Schwen commons.wikimedia.org/wiki/File:Ra...