Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2024, The Times a The Sunday Times Good University Guide.
English: @aberuni.bsky.social
Prifysgol Aberystwyth
Loading...
Mae Dr Jenny Mathers yn darparu golwg ar y rhyfel parhaus yn Wcráin, gan amlygu sut mae’r gwrthdaro yn peri heriau sylweddol o ran sut y mae Rwsia'n cael ei gweld yn y byd.
🖱️ tinyurl.com/ywfkwn3h
@interpolaber.bsky.social
🍞 Mae ein hymchwilwyr wedi datblygu dull arloesol o wella arogl bwydydd protein uchel amgen a wneir o fara dros ben wedi'u eplesu â glaswellt a ddefnyddir fel arfer i fwydo da byw.
🖱️ tinyurl.com/4tcc6csf
@ibers.bsky.social
📜 Mae defnydd beirdd Cymru o iaith gariad ac agosatrwydd i ddisgrifio eu perthnasoedd â noddwyr pwerus yn cael ei astudio fel rhan o ymchwil yn ein Hadran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.
🖱️ tinyurl.com/4976tcte
#BarddoniaethGanoloesol #BarddoniaethGymreig
🌎 Ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd, mae'r gwaith hwn yn enghraifft o sut y gall buddsoddi mewn gwyddor planhigion helpu i adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy, isel ei garbon, a hynny hyd yn oed yn y sectorau mwyaf heriol.
🖱️ tinyurl.com/33n8bv4t
#NowForClimate
👏 Llongyfarchiadau lu i Dr Beth Rodgers o'n Hadran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ar lwyddiant llyfr, a gyd-olygwyd ganddi hi, sydd wedi ennill Gwobr Llyfr Golygedig 2026 gan y Children’s Literature Association.
#LlenyddiaethPlant #GwobrauLlyfrau
Cafodd Charles James Fox ei drawsnewid gan ddychan a sgandal i fod yn un o enwogion gwleidyddol cyntaf Prydain, gan ddylanwadu ar farn y cyhoedd am ddegawdau - mewn erthygl newydd mae Dr Callum Smith yn esbonio'r hanes.
🖱️ tinyurl.com/y37v4ff2
🚑 Bydd ein Canolfan Addysg Gofal Iechyd, gan weithio ar y cyd â sefydliadau partneriaethol, yn cynnal efelychiad o ddigwyddiad o bwys ddydd Mawrth 16 Mehefin i helpu i hyfforddi ein myfyrwyr nyrsio. Efallai y clywch chi seirenau neu weld cerbydau brys yng nghyffiniau’r Brifysgol ar y diwrnod.
🪰 Mae pryf parasitig yn aberthu’i olwg ar ôl dod o hyd i letywr a rhoi'r gorau i hedfan yn barhaol, yn ôl ymchwil newydd.
🖱️ tinyurl.com/yj4k4zjt
#ymchwil #parasitoleg
Mae camera crwydryn Mawrth yn un o lu o ddyfeisiadau robotaidd a fydd yn glanio yn y Bandstand yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 6 Mehefin ar gyfer y wledd wyddonol, Labordy'r Traeth.
🖱️ tinyurl.com/2sta5k6d
🫧 Daeth cors fawn yn ein Canolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran yn llwyfan ar gyfer perfformiad awyr agored fis yma, wrth i ddata gwyddonol gael ei drawsnewid yn waith ymdrochol.
🖱️ tinyurl.com/nhhj5byz
#Mawndiroedd #CelfGwyddoniaeth